bugeilio'r gwenith gwyn - ar log lyrics
Loading...
mi sydd fachgen ieuanc ffôl
yn byw yn ôl fy ffansi
myfi′n bugeilio’r gwenith gwyn
ac arall yn ei fedi
pam na ddeudi ar fy ôl
ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
gwaith ′rwyn dy weld, y feinir fach
yn lanach, lanach beunydd!
glanach, lanach wyt bob dydd
neu fi â’m ffydd yn ffolach
er mwyn y gŵr a wnaeth dy wedd
gwna im drugaredd bellach
cwnn dy ben, gwêl acw draw
rho i mi’th law wen dirion
gwaith yn dy fynwes bert ei thro
mae allwedd clo fy nghalon!
tra fo dŵr y môr yn hallt
a thra fo ‘ngwallt yn tyfu
a thra fo calon dan fy mron
mi fyddai’n ffyddlon iti
dywed imi’r gwir heb gêl
a rho dan sêl d’atebion
p’un ai myfi neu arall, gwen
sydd orau gen dy galon
Random Song Lyrics :
- paper - jssr lyrics
- heaven on earth - orphèvre (singer-songwriter) lyrics
- tudo bem - rnld lyrics
- cackwhiff - m.d.s.o. lyrics
- drop nuts - jessb lyrics
- stanger - prime society lyrics
- psychedelic ii (never see me again) - cleo's trademark lyrics
- гиперборея (hyperborea) - grust200 lyrics
- can ey şəhid - elvin nasir lyrics
- my baby - jugg harden lyrics