cân john henry jones - ar log lyrics
mae’r enwog ddyn o’r gwyndy
yn arwr ar y paith
bleserus yw ei gwmni
‘rwyf gartre ar fy nhaith
mae richard bach ac yntau
yn ddau o galon rydd
er pelled taith i’r andes
pa achos cwyno sydd?
yr helynt fawr a gafwyd
i gychwyn, onide?
yr oedd aelodau’r fintai
ar wasgar hyd y lle
daeth lizzie o’r dyffryn isaf
o ymyl y ffos fflat
a mair o faes y rhyddid
mae’r ddwy yn hoff o ‘chat’!
o ganol dyffryn uchaf
daeth taylor am y fen
wrth roddi tro i’r andes
fe roddai dro am gwen
o’i gartre yn nhop y dyffryn
‘rhen wmffras annwyl, mad
pob un am gael john henry
yn gwmni tua’r ‘wlad’
d’wedod ein mwyn gludydd
“ddydd mawrth yn ddiau’r af”
‘quien sabe’ nad dydd sadwrn
medd ei geffylau braf
josé a fu am ddyddiau
yn chwilio am y rhain
fe oedwyd am ddirwnodau
a phawb ar bigau’r drain
oherwydd yr anffodion
fe deimlai rhai yn ddig
‘roedd ‘robin’ am y bara
a’r clêr yn mynd a’r cig
ond, o, ‘roedd cydymdeimlad
john henry jones yn llawn
“os cawn ni y ceffylau
fe fydd pob peth yn iawn”
ond, o, ‘roedd cydymdeimlad
john henry jones yn llawn
“os cawn ni y ceffylau
fe fydd pob peth yn iawn”
Random Song Lyrics :
- kali maa - cain culto lyrics
- nomad - john muirhead lyrics
- ankles (demo) - lucy dacus lyrics
- thunderstruck - skeleton staff lyrics
- vlijmscherp - eefje de visser lyrics
- mișto senzația - alan (rou) lyrics
- why i recommend go agencies to anyone starting fresh - sareena dominguez lyrics
- bratan - vez312 lyrics
- hemphead - p.o.l. (parade of losers) lyrics
- um dia vai chegar o dia - drxbber lyrics