lirikcinta.com
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

codi angor - ar log lyrics

Loading...

mae’n llenwi’n gyflym hogie bach
mae’n cwrs ni am y cefnfor
rhaid i ni bellach ganu’n iach
pryd cawn ni godi angor

y mae’r blue peter yn ei le
mae’n cwrs ni am y cefnfor
cawn weled eto groes y de
pryd cawn ni godi angor

mae gwledydd pell tu draw i’r môr
mae’n cwrs ni am y cefnfor
mae heulwen yn san salvador
pryd cawn ni godi angor

bydd yno llanw ‘mhen yr awr
mae’n cwrs ni am y cefnfor
mae arna’i bunt i wil siop fawr
pryd cawn ni godi angor

ffarwél fy nghariad, hir yw’r daith
mae’n cwrs ni am y cefnfor
rwyf wedi gaddo priodi saith
pryd cawn ni godi angor

Random Song Lyrics :

Popular

Loading...