
pen y byd - bwncath lyrics
[geiriau i ‘pen y byd’]
[penill 1]
pan ti’n unig ac yn teimlo
bod neb yn dy nabod di
paid â wylo, sych dy ddagra’
cydia fy llaw a dilyn fi
i ben y byd
[penill 2]
ac yno o dy flaen di
gweld y glesni’n cyrraedd yr haul
coelia fi pan dwi’n gaddo
bod hyn i gyd ar gael
ar ben y byd
[cytgan]
felly tyrd, gafael yn dynn
achos dwi yn mynd yn ddigon pell o fan hyn
dwi’n mynd i’r lle
lle mae dy boenau’n troi yn ddim
ar ben y byd, pen y byd
[penill 3]
felly rŵan wyt ti’n coelio
pan mae’r awel yn d’effeithio di
a ti’n gwenu, mae hi ‘di gweithio
mae’r hapusrwydd yn ôl ynot ti
ar ben y byd
[cytgan]
felly tyrd, gafael yn dynn
achos dwi yn mynd yn ddigon pell o fan hyn
dwi’n mynd i’r lle
lle mae dy boenau’n troi yn ddim
ar ben y byd, pen y byd
[penill 4]
gei di anghofio problema’ sy ‘di bod
edrych ymlaen, paid ag еdrych yn ôl
a phan ti’n unig ac angen ffrind
cae dy lygaid, cofia ni yn mynd
[cytgan]
felly tyrd, gafaеl yn dynn
achos dwi yn mynd i’r lle lle mae’r haul yn gwenu
dwi’n mynd i’r lle
lle mae’r adar i gyd yn canu, ti a fi
[allarweiniad]
dwi yn teimlo, dwi yn teimlo ar ben y byd
a dw’isio i chdi fod efo fi
ar ben y byd
Random Song Lyrics :
- hennessy - amk lyrics
- 君たちはうまく行く(kimitachiha umakuiku) - kan (jpn) lyrics
- studio - cosmobrown lyrics
- push & shove - harm & ease lyrics
- yo opino - sinergia lyrics
- am i right? - francis garcia lyrics
- party - ynkeumalice lyrics
- loše sam rame za plakanje - rade lacković lyrics
- grimoire - baby hayabusa lyrics
- jupiter's faerie - johnny blue skies lyrics