bugeilio'r gwenith gwyn - cerys matthews lyrics
Loading...
mi sydd fachgen ieuanc ffôl
yn byw yn ôl fy ffansi
myfi′n bugeilio’r gwenith gwyn
ac arall yn ei fedi
pam na ddeudi ar fy ôl
ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
gwaith ′rwyn dy weld, y feinir fach
yn lanach, lanach beunydd!
codais heddiw gyda’r wawr
gan frysio’n fawr fy lludded
fel cawn gusanu ôl dy droed
ar hyd y coed wrth gerdded
cwyd fy mhen o′r galar maith
a serchus iaith gwarineb
gwaith mwy na′r byd i’r mab a′th gâr
yw golwg ar dy wyneb
tra bo dŵr y môr yn hallt
a thra bo ‘ngwallt yn tyfu
a thra bo hiraeth dan fy mron
mi fyddai′n ffyddlon iti
dywed imi’r gwir dan gêl
a rho dan sêl d′atebion
p’un ai myfi neu arall, gwen
sydd orau gen dy galon
Random Song Lyrics :
- noël à rimnicu - marie-michèle desrosiers lyrics
- sa ma me - freddy hayz lyrics
- punchline - ogchicharron lyrics
- nino kilo - yunior hr lyrics
- flexed up (prod.theplugbeatz) - 212 lyrics
- no una nueva canción - doble b lyrics
- saz va avaz hejaz - mohammadreza shajarian lyrics
- おいで - stealth identity lyrics
- oh no (made in muscle shoals) - the revivalists lyrics
- givenchy - k1llua lyrics