
allan o'r suddo - mei emrys lyrics
[geiriau i “allan o’r suddo]
[pennill 1]
’raid i mi fod yn onest, doedd gynno fi’m clem
bod yr awyr am ddiffodd, dim golau’n y nen
[cyn*gorws]
ond mae ’na storm yn codi, fydd ’na dywydd mawr
nai’m dy helpu di fyny ’rôl dy daro di lawr, i lawr
‘rôl dy daro di lawr
[corws]
heb y sêr, heb yr haul
neshi golli fy nail
so mae’n amser i mi ailflodeuo a
thyfu allan o’r baw
drwy’r tymhestloedd a’r glaw
na’i ddisgleirio’r ffordd allan o’r suddo ’ma
y suddo ’ma
[pennill 2]
neshi golli rheolaeth, dim synnwyr na threfn
fi oedd gyrrwr y car ond o’n i’n isda’n y cefn
[cyn*gorws]
a mae ’na storm yn codi, mae ’na dywydd mawr
’raid ti neidio nôl fyny pan ti’n syrthio i lawr, i lawr
pan ti’n syrthio i lawr
[corws]
heb y sêr, heb yr haul
neshi golli fy nail
so mae’n hen bryd i mi ailflodeuo a
’mestyn allan o’r baw
drwy’r tymhestloedd a’r glaw
na’i ddisgleirio’r ffordd allan o’r suddo ’ma
[pont]
pan mae’r dŵr yn llifo
drwy y tyllau’n y to
a dy feddwl di’n boddi’n y gorffwylldra
’raid ti ffeindio dy hun
gwthio i lle tisho mynd
a disgleirio allan o’r suddo ’ma
o’r suddo ’ma
y suddo ’ma
Random Song Lyrics :
- paradies - mika (de) lyrics
- relapse - the spitfires lyrics
- don't want to fall - iann dior lyrics
- no compliments - prkr lyrics
- buck (abc) - rhomar jessy lyrics
- sunny days - jessie farrell lyrics
- got it all - professor green lyrics
- postpartum evisceration - aversion to life lyrics
- raw - lil b lyrics
- morbid rites - antropomorphia lyrics