
crys y mab - rhian samuel lyrics
Loading...
fal yr oeddwn yn golchi
dan ben pont aberteifi
a golchffon aur yn fy llaw
a chrys fy nghariad danaw
fo ddoeth ata’ ŵr ar farch
ysgwydd lydan, buan, balch
ac a ofynnodd im a werthwn
grys y mab mwya’ a garwn
ac y ddoedais i na werthwn
er canpunt nac er canpwn
nac er lloned y ddwy fron
o fyllt a defed gwynion
nac er lloned dau goetge
o ychen dan eu hiefe
nac er lloned llanddewi
o lysiau wedi sengi
fal dyna’r modd y cadwn
grys y mab mwya’ a garwn
Random Song Lyrics :
- can't afford those ! - whois03 lyrics
- luce - pennelli di vermeer lyrics
- back 4 that - 50 cent lyrics
- 80% - kur lyrics
- to care less - zes lyrics
- vhs - pete namlook lyrics
- maza dziesma lielā pasaulē - viktors zemgals lyrics
- over and over - benjamin clayton lyrics
- sin futuro - josé alfredo jiménez lyrics
- the strain - tln lyrics