lirikcinta.com
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu tonnau – bwncath

Loading...

ar ôl gweld y llun
ar ôl gweld drwy y llen
yr hyn sy’n dy boeni di

ydi’r geiria’n dy ben
be’ os ‘does dim tawelwch
be’ os ‘does ‘na ddim trefn
fel y cestyll sydd yn dymchwel ar y traeth
wrth i’r llanw eu hadennill drachefn

ond mae cariad fel y moroedd
sydd yn troi’n gymylau glaw
yna’n disgyn ar fynyddoedd
ac yn casglu yn y baw
cyn llifo’i lawr y creigiau
ar hyd llwybrau unig iawn
ond bob un ddaw’n ôl i’r tonnau
rhaid i’r gylchred fod yn llawn
bob un, ei hun
bob un, fel un

bob un sydd â’i hwyl
bob un sydd â’i rwyf
bob un sydd â’i angor drom
a phob un sydd â’i glwyf
unig iawn yw’r pellteroedd
rhwng pob capten, rhwng pob cwch
ond yr un yw ein gobaith ar y daith
felly unwn oll mewn ton o gyfeillgarwch

ond mae cariad fel y moroedd
sydd yn troi’n gymylau glaw
yna’n disgyn ar fynyddoedd
ac yn casglu yn y baw
cyn llifo’i lawr y creigiau
ar hyd llwybrau unig iawn
ond bob un ddaw’n ôl i’r tonnau
rhaid i’r gylchred fod yn llawn
bob un, ei hun
bob un, fel un

coda’r angor, dyma’r awr
tua’r gorwel gwêl y wawr
mae’n bryd i ni symud yn ôl
tuag at ein gwreiddiau
i gofio’r hyn a fu o’r blaen
i ni gyd gael symud ‘mlaen
efo’n gilydd awn fel un
tuag at y tonnau

ti’n cofio’r môr yn dda
tyrd at y tonnau
ti’n cofio’r ffordd yn dda
tyrd at y golau

lirik lagu lainnya :

YANG LAGI NGE-TRENDS...

Loading...