lirikcinta.com
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu maes e – datblygu

Loading...

pan odd yr heddlu’n curo y glowyr o ni ond yn aros amdana ti
pan rhoddodd bob geldof yn ein poced o ni ond yn chwarae hebddo ti
a phan odd hi’n gwadu ein bod yn gymuned, o ni ond am gymuno gyda ti
a phan orchuddwyd irac o dan garped, o ni am y dillad gwely drosom ni

ar maes e, heb y barnu na’r cystadlu
maes e, heb y barnu na’r cystadlu
maes e

pan penderfynon nhw ddechrau y rhyfel mi welais dy ddelwedd mewn rimau o ffilm
saethon nhw i fwydo y hollywood newydd y syllaist ti arno cyn symud i hyn
unwaith mi wisgodd hitler fel menyw, priododd feddwen odd yn yfed cymaint â ni
arhosodd e’n ddall ond des di â’r eli, tynnu’r holion o fy nhraed ac yna eu golchi

ar maes e, heb y barnu na’r cystadlu
maes e, heb y barnu na’r cystadlu
o maes e, heb y barnu na’r cystadlu
o maes e, heb y barnu na’r cystadlu

sai am fod yn gi ar linyn barbara woodhouse a sai’n mynd i ddawnsio fel ian c
ond condemiaf y ffordd yr adeiladwyd y wal berlin sydd rhyngddom ni
sai am agor lan fel hen glwyf i waedu dagrau am addewidion ffug
ambell waith mae dy gofio yn felys, ond heno mae’r cofio yn dristach na chig

ar maes e, heb y barnu na’r cystadlu
maes e, heb y barnu na’r cystadlu
o maes e, heb y barnu na’r cystadlu
o maes e, o maes e, o maes e
cnwch!

lirik lagu lainnya :

YANG LAGI NGE-TRENDS...

Loading...