lirikcinta.com
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu chwara’ hi’n saff – i fight lions

Loading...

hen ddyn mewn tafarn
digon parod i rannu ei farn
ar ôl drinc neu dri, ei dafod yn llithrig
yn baglu trwy rhyw ddarlith chwithig
“o dwi’n hiraethu
am y dyddia aur a fu
pan oedd bandia ddim yn benwan
ond cantorion ‘fo rhywbeth call i ddeud

rwan mae pawb yn ddistaw, pawb yn chwara’ hi’n saff
does neb yn gwneud dim i ddatod y cwlwm dolen yn y rhaff
o mae pawb yn ddistaw, pawb yn chwara’ hi’n saff
a ma’ popeth yn newid pan ma popeth yn aros ‘r’un fath”

hen ddyn dal i fynd
yn llyncu gwaelodion ei chweched peint
ei fraich rownd fy ‘sgwydda, ei wynt yn fy ngwyneb
mae fy nadl yn disgyn ar gl-stiau byddar
“gwranda, ti rhy ifanc i gofio
yr amser pan oedd cynulleidfaoedd
yn canu ‘mlaen i ganeuon
gan gantorion ‘fo rhywbeth call i ddeud

ma’ pawb yn swnian, ma’ pawb yn swnian fod pawb yn swnio r’un fath
ond ella, ella trwy gl-stiau gwell gall glywed y gwall yn y ddadl ‘ma

paid beio busnesa am ladd unrhyw gath
nid chwilfrydedd nath ond diflastod tra bod popeth yn aros r’un fath

lirik lagu lainnya :

YANG LAGI NGE-TRENDS...

Loading...