lirikcinta.com
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu jacpot – melin melyn

Loading...

fe wariais yn galed drwy ddyfalbarhau
i gyflawni′r freuddwyd fawr
baglais ac fe laddaist fy ysbryd

yn sgerbwd ar y llawr

‘sgwydais y sbwriel, ciciais y dail wrth y rheilffordd
darganfyddais fy hun yn crynu yn gorn wrth y groesffordd

crwydrais y strydoedd yn meddwl yn ffol
am dactegau i fod yn lwyddiant
drwy ffenestri tywyll, fflachiodd y cyfle
i ymddangos mewn cwis adloniant

a thrwy′r blwch post, glaniodd y tocyn ar y bwrdd
dyma’r galwad euraidd i olchi’r tristwch i ffwrdd

i feddwl nad o′n i′n dy nabod tan
i ni’n dau gystadlu ar y sgrîn
pwy fyddai′n meddwl y galle ti fod
mor greulon i gamdrin

fy moment fawr gyda miloedd yn gwylio o’n cymdeithas?
codaist yr amlen, rhwygaist y felcro mor gas

ond, pam oedd rhaid ti wenu?
oedda ti yn crefu
i′r wlad i ngweld i’n fethiant?
sut fedrwn i ddim sylwi ar gymru gyfan
yn chwerthin ar fy aflwyddiant?

a nawr dwi′n rhynnu yn y gell, er gollwng y gyllell
dim siawns am faddeuant na chyfle i droi’r cloc yn ôl

ond fedrwn i ddim maddau i ti am ategu

dim jacpot i ti
jacpot i ti
dim jacpot i ti
jacpot i ti
dim jacpot i ti
jacpot i ti
dim jacpot i ti
jacpot i ti

dim cuddly toy na hyd yn oed car
dim cegin newydd na self service bar
dim cash prize na gwyliau i’r cyfandir
just ateb sych yn fy ngadael ar y sychdir

′na i gyd oedd gan ti i ddweud oedd

dim jacpot i ti
jacpot i ti
dim jacpot i ti
jacpot i ti
dim jacpot i ti
jacpot i ti
so
dim jacpot i ni

lirik lagu lainnya :

YANG LAGI NGE-TRENDS...

Loading...